Y Llwybr Mellt
cefnogir gan Arts Council Wales
Sioe bypedau ‘werdd’ i’r teulu oll sy’n adrodd stori ein dyddiau ni
Mae Llwybr Mellt yn cyfuno pyped-waith crefftus gyda thaflunio animeiddiadau hardd a cherddoriaeth wreiddiol i adrodd chwedl ein dyddiau ni. Mae Ella’n pendroni pam fod fferm ei theulu dan lifogydd. Mae ei thad-cu yn poeni am nad yw’r llyswennod yn teithio lan yr afon mwyach. Mae hi’n dechrau ar daith hudolus trwy dirweddau gwahanol gyda’i ffrind newydd, Harri y sgwarnog. Ar ei thaith ledled y byd mae Ella’n cyfarfod creaduriaid diddorol a phobl sy’n ei helpu i ddysgu ffyrdd newydd o ddeall a gofalu.
Llwybr Mellt yw sioe bypedau deuluol newydd Theatr Byd Bychan ac mae wedi ei chreu ac ar daith gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.
The Lightning Path/ Llwybr Mellt echoes the company’s strong ecological ethos with a journey across the continents from pole to desert…The action blends the range of possibilities of puppetry … is witty, colourful and compact.
Adam Somerset, Theatre in Wales April 2016
Dewch i gwrdd â’r criw!
Cyfarwyddwraig
Mae Ann Shrosbree yn bypedwraig a pherfformwraig grefftus iawn yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr Theatr Byd Bychan
Pupedwr ac actor
Mae Hope Dowsett yn eithriadol o gyffrous i fod yn perfformio yn ei sioe broffesiynol gyntaf. Pan nad yw’n actio ei hoff bethau yw llwybrau pert, llyfrau da a bisgedi.
Mae Heledd Gwynn wrth ei bodd yn gweithio gyda phypedau. Ar y sgrîn yn ddiweddar roedd Heledd yn chwarae rhan Joy yn y gyfres deledu 35 DIWRNOD. Mae’n dwlu gweithio ar ei phrosiectau celf a mynd allan ar gefn beic (gyda phicnic sy’ ore).
Bill Hamblett yw cyfarwyddwr creadigol Theatr Byd Bychan ac mae’n actor a phypedwr. Mae ei waith wedi mynd ag e ar draws y byd. Mae wrth ei fodd yn ail-ymweld â rhai o’r lleoedd a’r cymeriadau yn Llwybr Mellt.
Datblygu sgript
Meredydd Barker, Carol Byrne Jones
Animeiddio
Sean Vicary
Sgôr gerddorol
Dr Peter Stacey
Datblygu Technegol
Steve Knight
Gwneuthurwyr pypedau
Toby Downing, Ann Shrosbree, Bill Hamblett
Ymholiadau archebu
Sam Vicary – sam@smallworld.org.uk
















