
Fern Smith
Mae gwahoddiad i chi ddod i noson o gysylltu, dathlu a sgwrs.
I want to say ‘Grace’ – Gracias, Grazi, Give Thanks and Gratitude. I want to say, Thank You, Merci, Danke and Diolch. I want to invite you to join me.
Bydd yr Artist Profiadau Fern Smith yn siarad am ei gwaith ac yn rhannu rhai o’r uchafbwyntiau o’i blwyddyn o gydweithrediad gyda Gofod, Amser a Chydamseredd. Yn 2017, derbyniodd Fern Wobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru gan ddod yn ‘artist preswyl’ mewn nifer o fannau gwahanol a lleoliadau anarferol, pob un ynghlwm â’r rhif Saith! Yn ‘Dweud Gras’, daw Fern nôl i bob un o’r pedwar man lle bu’n preswylio: Theatr y Glowyr Rhydaman, Theatr Byd Bychan, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Chapel y Graig yn Ffwrnes, er mwyn nodi cyflawniad a chlo ar flwyddyn o feddwl hudolus, o fod a gwneud.
Wrth ddod nôl i Theatr Byd Bychan bydd yn sôn am sut y digwyddodd ‘7 Sgwrs Cyn Diwedd Amser’ gan ddylanwadu ar ei syniadau ynglŷn â’r grefft o fyw mewn oes gythryblus.
Mae gwahoddiad cynnes i chi alw draw os oeddech yn rhan o unrhyw un o’r sesiynau preswyl gwreiddiol neu os y’ch chi’n chwilfrydig am yr hyn wnaeth Fern yn ystod ei harbrawf creadigol byw dros flwyddyn o amser. Bydd yn rhannu datgeliadau, sylweddoliadau a myfyrdodau, gan siarad am ei phrofiad a chynnal gofod i eraill fynegi eu profiadau nhw.
Suggested donation £3 entry.




