
Beth yw ystyr ‘cartref’ i chi
Gwaith cyffrous aml-gelfyddyd yw when in roam sy’n edrych ar thema cartref a pherthyn gan ddefnyddio hiwmor ac adrodd stori deimladwy. Mae’r prosiect yn cyfuno dawns/ symud, dawns awyrol, gair llafar a chyfansoddiad cerddorol gwreiddiol mewn pedair iaith (Cymraeg, Sbaeneg, Ffrangeg a Saesneg), gan greu perfformiad addas i bob cynulleidfa.
Wedi crwydro Puerto Rico, Madrid, yr Alban a De Cymru, mae’r criw sy’n cynnwys y berfformwraig o Ogledd Cymru Angharad Jones, perfformiwr syrcas arobryn o Ganada Eric Mc Gill a choreograffydd o Buerto Rico Thania Acaron yn anelu draw i Theatr Byd Bychan.
“Rich with personal and political relevance, the content of when in roam strikes to the core of issues with which we as a group are wrestling, whether personally, regionally, nationally and/or internationally.”
image: Jenny Milne


