
Adventure Travel Film Club yn cyflwyno Losing Sight of Shore
Mae Losing Sight of Shore yn olrhain taith ryfeddol pedair menyw ddewr dan yr enw y Coxless Crew a fwrodd mas ar daith i rwyfo ar draws y Môr Tawel o America i Awstralia hynny heb gefnogaeth. Yn ystod naw mis ar y môr, fe wynebon nhw heriau meddyliol a chorfforol a oedd yn rhaid eu goresgyn er mwyn ennill eu lle yn y llyfrau hanes. Ebrill 2015 oedd dyddiad dechrau’r daith a dorrodd record, ac aelodau’r Coxless Crew oedd Laura Penhaul, Emma Mitchell, Natalia Cohen, Isabel Burnham, Lizanne Van Vuuren a Meg Dyos. Fe ddechreuodd eu taith yn San Francisco, CA ar siwrne 8,446 milltir ar draws y Môr Tawel i Cairns, Awstralia. Dyma stori am wytnwch, cyfeillgarwch a phŵer yr enaid dynol.
Mae gan bawb ei Fôr Tawel i’w groesi.


