
Gwead llesmeiriol o gerddoriaeth Geltaidd ac Indiaidd, gyda’r canwr telynegol Indiaidd, Rajesh David, cerddoriaeth gitâr medrus a hiraethus Dylan Fowler a sacsoffon soprano a ffliwt alto godidog Pete Stacey.
Mae Dylan Fowler yn adnabyddus am ei ddawn fel cerddor a’i gyd-weithio blaengar gyda cherddorion o bob cwr o’r byd. Mae’r ffliwtydd a’r sacsoffonydd Pete Stacey wedi gweithio gyda cherddorion clasurol Indiaidd megis Hariprasad Caurasia a Nishat Khan a berfformiodd yn Neuadd Dewi Sant a Neuadd Albert. Mae Rajesh David yn ganwr hynod o ddyfeisgar ac amrywiol sy’n hanu o Mumbai, lle roedd yn artist dewisol ar gyfer Radio a Theledu All India. Mae Rajesh yn pontio cerddoriaeth a diwylliannau y ddau fyd gan ganu yn Hindi, Sanskrit a Chymraeg.
Yn repertoire Tŷhai mae ragas a rhythmau cerddoriaeth Indiaidd, cerddi o farddoniaeth Sufi a thestunau hynafol Sanskrit, ynghyd â cherddoriaeth a chân draddodiadol Gymreig. Mae’r perfformiad heno yn rhan o gyfres o ganeuon i nodi lansiad eu CD.
Ffoto: Toril Brancher




