
cyflwynir gan Robin Heath
Roedd cred bod Sidydd y Preseli yn debyg i Sidydd Glastonbury gyda ffigyrau yn y tirwedd yn adlewyrchu’r sêr uwchben. Does neb erioed wedi llwyddo ei leoli’n bendant. Mae Robin Heath, Ymchwilydd Megalithig ac awdur, wedi gwneud darganfyddiad newydd: heneb ffurf cylch yn ardal y Preseli sy’n ffurfio teml dirweddol enfawr. Ai hwn yw’r Sidydd Preseli chwedlonol? Mae Robin yn rhoi cyflwyniad gweledol i godi cwr y llen ar y deml y mae e’n credu sy’n brototeip i Gôr y Cewri.



