
Ydych chi’n aelod o’r gymuned LGBTQ+? Oes gyda chi ddyhead i fynegi eich hun yn greadigol? Ymunwch â’r awdur a pherfformiwr Kerry Steed a’r cynllunydd Di Ford mewn diwrnod unigryw i ryddhau eich creadigrwydd.
Archwiliwch ffyrdd dychmygus i fod yn ffrindiau â’ch hunan creadigol: arbrofwch gyda geiriau chwareus a thechnegau ysgrifennu myfyrgar; cynlluniwch a gwisgwch eich cymeriad creadigol gan ddefnyddio model pren 12” a defnyddiau lliwgar; mewn cyflwyniad meddal i weithdy llais darganfyddwch sut gall eich llais creadigol chi swnio. Trwy gydol y dydd fe fydd gwahoddiad i rannu straeon unigol mewn gofod diogel. Disgwyliwch deimlo i’r byw, gwneud ffrindiau a chwerthin. Ewch â’ch model pren gartre gyda chi a jwrnal.
Bydd y dydd yn diweddu trwy rannu gwaith creadigol, ac mae gwahoddiad i ffrindiau a theuluoedd.
Te a choffi ar gael. Dewch â phecyn cinio.
ARCHEBU* steedkerry@yahoo.com, 07989 110 171
18+
Cefnogwyd ac ariannwyd gan Lenyddiaeth Cymru, Cynllun Llên a Lles.




