
SOLD OUT
Ymunwch â’ch gwesteiwr Beyond Compere am noson hwyliog mewn tymor dathlu gyda cherddoriaeth fyw, perfformiadau syrcas awyrol, DJs, sushi ar ar hambyrddau, bar coctel, glityr a glamyr. Rhaid archebu.
Mae arddull ddeinamig cerddoriaeth Werin Byd-Eang y 3 Daft Monkey yn adlewyrchu y pentref global sydd o’n cwmpas. Mae eu rhythmau dawnsio heintus yn eich tywys ar daith gerddorol a bydd yn eich gadael yn fyr o wynt, wedi’ch rhyfeddu a’ch cyffroi! Mae eu cerddoriaeth yn cymysgu genres Celtaidd, Klezmer, Sipsi, Balcan, Lladin, Ska, Dyb Reggae, Indi, Roc a hyd yn oed rhyw damed bach o Shostakovich.
Gyda lein-yp 4 darn newydd sbon, mae’r band yn gwau melodïau cyfareddol gyda cytganau cofiadwy, chwarae ffidil meistrolgar a disglair, gitâr 12-tant rhythmig, bas 6-tant, offerynnau taro llaw unigryw a harmonïau llais 4-rhan.
Mae ehangder amrywiol y band yn cael ei adlewyrchu yn y gwahanol berfformiadau lle cawson nhw eu gwahodd fel gwahoddedigion arbennig, gan gynnwys teithio ar hyd a lled y DU ac Ewrop gyda’r Levellers, ac agor ar gyfer bands megis Hawkwind, Bellowhead, Show of Hands a Dreadzone, yn ogystal â bod yn brif enwau ar eu teithiau cenedlaethol eu hunain.



