
11yb – 3yp
Croeso i farchnad FLEat eleni, a dewis maldodus o nwyddau, bwydydd blasus a bargeinion gwirioneddol. Mae FLEat yn brofiad siopa dydd Sul unigryw, ac yn ddigwyddiad cymdeithasol cymunedol heb ei ail. Yma fe welwch waith cynllunwyr proffesiynol dethol, artistiaid, gwneuthurwyr a phobwyr. Fe welwch ddillad, trugareddau, crefftau a darnau unigryw o gelf. Sbwyliwch eich hunan a mwynhau cinio blasus neu prynwch ddewis o gacennau i de. Dyma ffordd wych i dreulio dydd Sul.
mynediad am ddim



