
Chwaraeodd Marty O’Reilly ar ei ben ei hun yn gyntaf fel crwt coleg ifanc pan ddechreuodd ym Mhrifysgol Santa Cruz. Eisteddodd i mewn ar nosweithiau meic agored, arllwysodd beint neu ddau wrth y bar a chreu perthynas â’i gymuned newydd. Y dyddiau hyn, fe yw prif leisydd Marty O’Reilly and the Old Soul Orchestra, ond dim ond y dyn ei hun yw, gyda’i harmonica a’i gitâr, yn chwarae’r caneuon a ysgrifennodd neu’r caneuon y mae’n hoff o’u chwarae.
Mae O’Reilly yn chwarae gydag arddeliad un sydd wedi hen arfer â chwarae’r felan Chicago sy’n cuddio ei wreiddiau Swydd Sonoma County roots. Mae’n chwarae’n unionsyth ac â’r fath arddeliad, mae’n plethu ei ganeuon mewn i gasgliadau gyda’r fath sgil nes nad yw’r gwrandäwr yn medru clywed pryd mae un gân yn gorffen a’r nesaf yn cychwyn o anghenraid. Mae ei ymosodiad ar ei gitâr yn ffyrnig, mae’n curo’r tannau â phlyciadau cyflym a rhediadau nodau gwyllt.
Criw o gyfeillion yw The Riverside o Galiffornia a Thecsas, sefydlwyd gan y ddeuawd gŵr a gwraig, Jacob a Lorien Jeanson. Maen nhw’n tyrru o amgylch un meicroffon, mae’r band yn dibynnu ar ei gilydd i ganfod y cydbwysedd yn eu cerddoriaeth. Mae’r math traddodiadol hwn o berfformiad, ynghyd â harmoni lleisiol a’u hofferynnau llinynnol yn seiliedig mewn cerddoriaeth werin, mae’r band yn darlunio tirweddau ac yn adrodd eu straeon hwy. Drwy deithio o gwmpas y wlad gyda’i gilydd a siarad yn onest am yr uchelfannau a’r iselfannau niferus, mae The Riverside yn ymdrechu i fod yn deulu sy’n tyfu gyda’i gilydd, ac yn fand sy’n helpu gwrandawyr i barhau ar hyd afon droellog bywyd. theriversidefolk.com



