Disgrifiad
Ry’n ni wastad wedi sylweddoli bod ein canolfan hyfryd yn ddelfrydol ar gyfer cael ei rigio i ganiatau hedfan (theatr gorfforol yn yr awyr). Mae’n amser i bobl o bob oed a gallu fanteisio ar hyfforddiant rhyddhaol mewn gwaith trapeze, corde lisse a sidanau. Byddwn yn cyd-weithio gyda Nofitstate circus, fydd yn gallu darparu hyfforddiant athrawon, ambell ymweliad gan diwtoriaid a chyngor.
Mae Theatr Byd Bychan yn gwneud ceisiadau am arian i rigio’r gofod, ond er mwyn i hyn ddigwydd, mae arnon ni angen prynu offer arbenigol megis matiau, harneisi, rhaffau, slingiau ioga a sidanau.
A fyddech yn fodlon cyfrannu i’r fenter trwy roi rhodd i ‘Fundraising for Flying’ isod? Gwnewch yn siwr eich bod yn darllen am ddigwyddiadau codi arian sy’n cael eu trefnu gan y gymuned sy’n awyddus i hedfan.
Bydd Gwledd Bwmpenni ar Hydref 8ed yn Felin Ganol i godi arian. Dilynwch y ddolen hon am fwy o fanylion https://www.facebook.com/events/1834787386779448/
Ar Dachwedd 25 bydd digwyddiad codi arian arall yn cyflwyno bandiau ifanc talentog a pherfformwyr syrcas lleol yn Theatr Byd Bychan.
Gwyliwch y gofod hwn!





