
Oedran: 12 – 16
Ar gyfer plant sy’n byw yng Ngheredigion yn unig. Trefnir y gweithgaredd hwn gan Gyngor Sir Ceredigion ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n byw yng Ngheredigion yn unig.
Chwiliwch am y dramodydd oddi mewn i chi ac ymunwch gyda Theatr Byd Bychan i greu Drama mewn Dydd. Dysgwch fwy am sgiliau theatr, byrfyfyrio a chwerthinwch eich ffordd drwy’r diwrnod. Bydd egwyl fer amser cinio (dewch â’ch cinio gyda chi) a chyn y perfformiad terfynol. Gall pob person ifanc wahodd un riant i berfformiad gyda phellter cymdeithasol am 3pm.
++++
Archebu’ch Lle Ar-lein
Mae Haf o Hwyl yn cynnig gweithgareddau am ddim i bobl ifanc sy’n byw yng Ngheredigion drwy gydol yr haf. A wnewch chi archebu un sesiwn i bob plentyn ac fe fyddwn yn cadarnhau pob archeb gydag e-bost dilynol. Rhaid i’r archebu gael ei wneud gan riant neu warcheidwad, a bydd gofyn i chi ddychwelyd ffurflen Google yn gofyn am beth gwybodaeth er mwyn cwblhau’r broses archebu.
Beth i ddod gyda chi
Dewch â gorchudd wyneb os gwelwch yn dda, potel ddŵr a byrbryd os bydd angen.
Niferoedd Cyfyngedig
Mae niferoedd yn gyfyngedig, felly archebwch yn brydlon. Caiff ein gweithgareddau eu rhedeg gyda mwyafrif o 10 plentyn/person ifanc yn cymryd rhan. Byddwn yn rhedeg rhestr wrth gefn os byddwn yn cyrraedd yr uchafswm. Os ydych chi’n sylwi bod gweithgaredd yn llawn, a wnewch chi anfon e-bost at info@smallworld.org.uk er mwyn cael ei ychwanegu at y rhestr hon.
Mynediad a Pharcio
Mae Theatr Byd Bychan yn adeilad gyfan gwbl hygyrch. Fodd bynnag, nid oes lle parcio yn Theatr Byd Bychan a gofynnir i rieni i gysylltu â’r tîm os oes gan eu plentyn/person ifanc anghenion mynediad. Gofynnir i rieni i ollwng eu plentyn/person ifanc ar droed. Gofynnir yn garedig i rieni aros y tu allan i’r adeilad er mwyn cyfyngau ar y nifer o bobl a’r risg i’r rhai sydd y tu mewn.
Cysylltu â ni
Rydym ni’n argymell eich bod chi’n cysylltu â ni drwy e-bost info@smallworld.org.uk. Ni fedrwn sicrhau ymateb os ydych chi’n anfon neges dros y cyfryngau cymdeithasol, ac ni fyddwn ni’n derbyn archebion drwy’r cyfrwng hwn. Gallwch adael neges i ni ar 01239 615952 a bydd yn cael ei godi yn ystod oriau gweinyddol.
Noddir gweithgareddau Haf o Hwyl gan Lywodraeth Cymru ac fe’i cydlynir gan Gyngor Sir Ceredigion.
#SummerofFun
#HafoHwyl



