Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Cyflwyniad i Sgiliau Syrcas – oedran 6 – 10

20th Awst 2021 @ 1:00 pm - 3:00 pm

Oedran: 6 – 10

Ar gyfer plant sy’n byw yng Ngheredigion yn unig. Trefnir y gweithgaredd hwn gan Gyngor Sir Ceredigion ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n byw yng Ngheredigion yn unig.

Diwrnod o hwyl yn rhoi tro ar amrywiaeth o sgiliau syrcas gyda hyfforddwyr arbenigol. Cewch gyfle i ddysgu sgiliau sylfaenol gan gynnwys balansio, jyglo a chlownio, yn ogystal â chwarae gemau theatr. Mae’r sesiynau hyn yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o alluoedd ac maent yn lond trol o hwyl i ddechreuwyr.

Beth i’w wisgo: dillad cysurus sy’n ffitio’n agos ar y corff, rhai y teimlwch chi’n gysurus i symud ynddynt, gan gynnwys crys neu dop y gallwch fod wyneb i waered ynddo heb iddo syrthio dros eich wyneb! Dylai’ch dillad ar y coesau orchuddio’r canol a chefn y pengliniau. Peidiwch â gwisgo gemwaith.

Beth i ddod gyda chi: gorchudd wyneb, mat i gynhesu arno, potel ddŵr.

 

++++

Archebu’ch Lle Ar-lein

Mae Haf o Hwyl yn cynnig gweithgareddau am ddim i bobl ifanc sy’n byw yng Ngheredigion drwy gydol yr haf. A wnewch chi archebu un sesiwn i bob plentyn ac fe fyddwn yn cadarnhau pob archeb gydag e-bost dilynol. Rhaid i’r archebu gael ei wneud gan riant neu warcheidwad, a bydd gofyn i chi ddychwelyd ffurflen Google yn gofyn am beth gwybodaeth er mwyn cwblhau’r broses archebu.

Beth i ddod gyda chi
Dewch â gorchudd wyneb os gwelwch yn dda, potel ddŵr a byrbryd os bydd angen.

Niferoedd Cyfyngedig
Mae niferoedd yn gyfyngedig, felly archebwch yn brydlon. Caiff ein gweithgareddau eu rhedeg gyda mwyafrif o 10 plentyn/person ifanc yn cymryd rhan. Byddwn yn rhedeg rhestr wrth gefn os byddwn yn cyrraedd yr uchafswm. Os ydych chi’n sylwi bod gweithgaredd yn llawn, a wnewch chi anfon e-bost at info@smallworld.org.uk er mwyn cael ei ychwanegu at y rhestr hon.

Mynediad a Pharcio
Mae Theatr Byd Bychan yn adeilad gyfan gwbl hygyrch. Fodd bynnag, nid oes lle parcio yn Theatr Byd Bychan a gofynnir i rieni i gysylltu â’r tîm os oes gan eu plentyn/person ifanc anghenion mynediad. Gofynnir i rieni i ollwng eu plentyn/person ifanc ar droed. Gofynnir yn garedig i rieni aros y tu allan i’r adeilad er mwyn cyfyngau ar y nifer o bobl a’r risg i’r rhai sydd y tu mewn.

Cysylltu â ni
Rydym ni’n argymell eich bod chi’n cysylltu â ni drwy e-bost info@smallworld.org.uk. Ni fedrwn sicrhau ymateb os ydych chi’n anfon neges dros y cyfryngau cymdeithasol, ac ni fyddwn ni’n derbyn archebion drwy’r cyfrwng hwn. Gallwch adael neges i ni ar 01239 615952 a bydd yn cael ei godi yn ystod oriau gweinyddol.

Noddir gweithgareddau Haf o Hwyl gan Lywodraeth Cymru ac fe’i cydlynir gan Gyngor Sir Ceredigion.

#SummerofFun
#HafoHwyl

 

 

Details

Date:
20th Awst 2021
Time:
1:00 pm - 3:00 pm
Event Category:
Event Tags:
, ,

Trefnydd

Ceredigion County Council
View Trefnydd Website

Venue

Theatr Byd Bychan
Bath House Road
Aberteifi, Ceredigion SA43 1JY United Kingdom
+ Google Map
Phone:
01239 615952

Terms and Conditions of ticket sales.

When making a booking with us your personal data is stored for Box Office purposes only. By making a booking you consent to your personal data being stored in accordance with the General Data Protection Regulation (GDPR).