Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

ACRO Rhieni a Phlant 8 – 16s

22nd Chwefror 2022 @ 11:00 am - 12:30 pm

Mae’n ddrwg gennym ond mae hwn yn llawn. Cysylltwch â info@smallworld.org.uk a byddwn yn cysylltu â chi os daw lle ar gael. Diolch.

 

Mae’r sesiwn hon ar gyfer plant/pobl ifanc 8 – 16 sydd yn dod gyda’u rhiant/gwarcheidwad.

Dyma ffordd hwyliog a chwareus o ddysgu sgiliau newydd mewn gwaith balans a chydbwysedd ac acrobateg ar gyfer hyd at ddau blentyn/person ifanc yng nghwmni eu rhiant/gwarcheidwad. Gyda’ch gilydd byddwch yn dysgu sut i ymddiried a sut o godi’ch gilydd yn ddiogel. Mae’r sesiwn hon yn agored i bob gallu.

Dylai rhieni/gwarcheidwaid archebu un lle i bob teulu a dychwelyd y ffurflen(ni) gweithgaredd ar gyfer y plentyn/plant y mae Theatr Byd Bychan yn ei anfon ar ôl i’r archeb gael ei gadarnhau. Os ydych chi’n dod â dau blentyn/person ifanc, rhowch wybod i ni hefyd drwy e-bost info@smallworld.org.uk fel bod modd i ni addasu’r niferoedd yn unol â hynny.

Beth i’w wisgo: dillad cysurus sy’n ffitio’n agos ar y corff, rhai y teimlwch chi’n gysurus i symud ynddynt, gan gynnwys crys neu dop y gallwch fod wyneb i waered ynddo heb iddo syrthio dros eich wyneb! Dylai’ch dillad ar y coesau orchuddio’r canol a chefn y pengliniau. Peidiwch â gwisgo gemwaith.

Beth i ddod gyda chi: gorchudd wyneb, mat i gynhesu arno, potel ddŵr.

 

Noddir gweithgareddau Gaeaf Llawn Lles gan Lywodraeth Cymru a chydlynir gan Gyngor Sir Ceredigion.

#WinterOfWellbeing
#GaeafLlawnLles

 

++++

Archebu yma
Tocynnau Eventbrite
Tocynnau ar werth o 7 Chwefror 00:00

 

++++

 

Archebu’ch Lle Ar-lein

A wnewch chi archebu un sesiwn i bob plentyn ac fe fyddwn yn cadarnhau pob archeb gydag e-bost dilynol. Rhaid i’r archebu gael ei wneud gan riant neu warcheidwad, a bydd gofyn i chi ddychwelyd ffurflen Google yn gofyn am beth gwybodaeth er mwyn cwblhau’r broses archebu.

Beth i ddod gyda chi
Dewch â gorchudd wyneb os gwelwch yn dda, potel ddŵr a byrbryd os bydd angen.

Niferoedd Cyfyngedig
Mae niferoedd yn gyfyngedig, felly archebwch yn brydlon. Caiff ein gweithgareddau eu rhedeg gyda mwyafrif o 10 plentyn/person ifanc yn cymryd rhan. Byddwn yn rhedeg rhestr wrth gefn os byddwn yn cyrraedd yr uchafswm. Os ydych chi’n sylwi bod gweithgaredd yn llawn, a wnewch chi anfon e-bost at info@smallworld.org.uk er mwyn cael ei ychwanegu at y rhestr hon.

Mynediad a Pharcio
Mae Theatr Byd Bychan yn adeilad gyfan gwbl hygyrch. Fodd bynnag, nid oes lle parcio yn Theatr Byd Bychan a gofynnir i rieni i gysylltu â’r tîm os oes gan eu plentyn/person ifanc anghenion mynediad. Gofynnir i rieni i ollwng eu plentyn/person ifanc ar droed. Gofynnir yn garedig i rieni aros y tu allan i’r adeilad er mwyn cyfyngau ar y nifer o bobl a’r risg i’r rhai sydd y tu mewn.

Cysylltu â ni
Rydym ni’n argymell eich bod chi’n cysylltu â ni drwy e-bost info@smallworld.org.uk. Ni fedrwn sicrhau ymateb os ydych chi’n anfon neges dros y cyfryngau cymdeithasol, ac ni fyddwn ni’n derbyn archebion drwy’r cyfrwng hwn. Gallwch adael neges i ni ar 01239 615952 a bydd yn cael ei godi yn ystod oriau gweinyddol.

 

Details

Date:
22nd Chwefror 2022
Time:
11:00 am - 12:30 pm
Event Category:
Event Tags:
, , , , , , ,

Trefnydd

Small World Theatre
Phone:
01239 615 952
View Trefnydd Website

Venue

Theatr Byd Bychan
Bath House Road
Aberteifi, Ceredigion SA43 1JY United Kingdom
+ Google Map
Phone:
01239 615952

Terms and Conditions of ticket sales.

When making a booking with us your personal data is stored for Box Office purposes only. By making a booking you consent to your personal data being stored in accordance with the General Data Protection Regulation (GDPR).