
Welcome to The Adventure Travel Film Club‘s first double bill
Hitchtanbul 7 y.h.(1 awr)
Mae Dmitri a Karsten yn mwynhau ffawd-heglu er mwyn pleser ar eu taith i chwilio am straeon yn y byd sydd ohoni heddiw. Does dim antur felysach na chanfod eu hunain yn set gefn car dieithryn a gorfod ‘dod mlân’. Yr ansicrwydd dosbarth cyntaf, 24-carat am beth ddaw nesa wrth ffawd-heglu sydd wrth wraidd y boddhad mawr o wylio’r ffilm hon.
The Ride 8.15 y.h. (1 awr)
Mae pedwar boi o Awstralia yn trwco eu cadeiriau olwyn am feiciau quad ac yn reidio am 5000km ar draws canoldir anial Awstralia i ymweld â’r safleoedd lle cawson nhw eu niweidio mewn damweiniau pan yn ddynion ifanc. Ni all blinder llwyr, mwd, anialwch na llifogydd rwystro’r bois yna rhag ymweld â’r lleoedd lle newidiwyd eu bywydau am byth.
£5 entry entitles you to both films
£1 membership to The Adventure Travel Film Club is a one off fee
No one is rushing off after the films so there will be time for a chat and discussion.



