
/// AFRO /// JAZZ /// SOUL /// FUNK ///
Mae Lakuta yn gymysgedd fyd-eang go iawn o gerddorion, a’i aelodau’n dod o Kenya, Tanzania, Ghana, Malaysia, Sbaen a’r DU, a phawb yn tynnu ar eu cariad dwfn o gerddoriaeth jazz, ffync, enaid a cherddoriaeth byd i greu sain egnïol, pwerus. Mae’r lleisydd o Danzania/Kenya, Siggi Mwasote, wedi creu arddull unigryw gan roi twist ffres ffync-enaid i’r estheteg Affricanaidd draddodiadol. Yr offerynwraig taro Lladinaidd, Cicely Taylor, sy’n arwain yr ensemble ac mae’n dod â naws gyfoes i’r cyfan gydag ysgrifennu sydd wedi ei ysbrydoli gan deithiau yng Ngorllewin Affrica, Lladin America a’r Caribî.
Daw’r gair ‘lakuta’ o famiaith Siggi, sef Swahili, a’r cyfieithiad yw ‘darganfod, cyfarfod, rhannu neu deimlo llawnder’. Peidiwch colli noson mas ffantastig a’r siawns i ddawnsio i amrywiaeth o genres, gyda phlethwaith o offerynnau traddodiadol a sain egnïol.
Supported by Night Out



