
Director/ Cyfarwyddwr: Johan Grimonprez
Starring/ Yn cyflwyno: Andrew Feinstein, David Leigh, Helen Garlick
USA, 2016, 1’ 30”
yn cyflwyno gan Wales One World Film Festival 2017
wowfilmfestival.com
Golwg ddeifiol, di-flewyn ar dafod ar y fasnach arfau fyd-eang, y symiau enfawr o arian sy’n cael eu creu a’r llwgwrwobrwyo mae hyn yn ei olygu. Mae yma gyfweliadau hynod ddiddorol yn datgelu realiti sioclyd rôl ganolog Prydain yn y fasnach fudr hon sy’n cyfri elw mewn biliynau o bunnoedd a cholledion yn ôl bywydau pobl. Wedi ei seilio ar lyfr Andrew Feinstein, sydd wedi ei ganmol ledled y byd, dyma ffilm sy’n arbennig o dda am gyflwyno gwybodaeth ac yna dangos y canlyniadau. Mae wedi ei golygu yn eithriadol o sgilgar ac mae’n llawn clipiau perthnasol i daflu goleuni ar y cyfan, gan blethu ynghyd linynnau y stori fyd-eang nes creu achos cryf yn erbyn y rhai sy’n euog. Y gobaith yw os y gwnewn ni ddeall beth sydd wir yn digwydd dan ein trwynau, fe welwn ni drwy’r arswyd a chreu dyfodol gwell.
“ . . . superb, gut-punching exploration of the global arms trade is the sort of catalyst to energize politically-minded viewers.” Variety
Winner of the Best Documentary Award Edinburgh International Film Festival
Mwy of gwybodaeth wowfilmfestival.com



