
Drysau a bar yn agored o 6.30yh
Yn 2011, fe bostiodd Ed March ei fotobeic bychan iawn i ochor arall y byd a’i fwriad oedd ei reidio gartre. Doedd dim cynllun, dim sgript, dim criw wrth gefn a neb i ddweud wrtho pa mor ddwl oedd y syniad.
Dros yr 8 mis nesaf, fe deithiodd Ed a’i fotobeic hoff o’r enw Ninety drwy 17 o wledydd gan gynnwys Malaysia, Thailand, India ac Iran. Yn Fietnam, fe feddwodd yn shils gyda hen fenyw fach ac yn Bangkok roedd yna glychau priodas. Ble fydd e’n cysgu heno? Beth sy’n digwydd pan y’ch chi’n llwgwrwobrwyo siop arfau yn Cambodia gyda £200? A allwch chi gyrraedd Gwersyll Gwaelod Everest mewn pâr o dreinyrs? Mae’r rhain i gyd yn gwestiynau nad oedd Ed yn gwybod bod angen eu gofyn. Darganfyddwch pa fath o le yw’r byd gydag Ed a’i wên fawr, beic bach a chyllideb llai fyth
£5
Aelodaeth £1
Llun: Adi Gilbert



