Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Chwarae Syrcas i bawb!

2nd Medi 2017 @ 5:30 pm - 9:00 pm

- £7

Chwarae Syrcas i bawb! 4.30yp – 5.30yp
Dangosiad ar sgrîn o Quidam gan Cirque du Soleil, 6yh

Croeso i ddigwyddiad gwych arall sy’n Codi Arian i Hedfan dan ofal Déa Neile-Hopton. Ymunwch â Déa a Chriw y Syrcas mewn gweithdy cyffrous arall lle cewch gyfle i arbrofi gydag offer syrcas gwahanol: siwglo gyda sgarffiau, peli a chlybiau, hŵla hŵpiau a llawer mwy!

Wedi’r hyfforddiant bydd hoe i gael brechdan ac wedyn cyfle i weld Quidam, sy’n gynhyrchiad gan Cirque du Soleil. Mae Cirque du Soleil wedi gwefreiddio cynulleidfaoedd ledled y byd gyda’u perfformiadau anhygoel, anarferol ac egnïol iawn sy’n cyfuno acrobateg rhyfeddol, arddangosiadau goleuni disglair, gwisgoedd ysblennydd a cherddoriaeth hudolus. Mae Quidam yn cyfleu stori Everychild, sy’n byw gyda rhieni hunanol (a thra nodweddiadol) ac sy’n cael ei chludo i fyd swréal llachar lle mae acrobatiaid ac artistiaid hynod Cirque yn llythrennol yn hedfan.

£7 i gynnwys gweithdy a ffilm
Archebu brechdanau ymlaen llaw £3 (ffoniwch 01239 615952)
Pop corn a diodydd ar werth

Addas i bawb. Rhaid i bob plentyn 12 oed ac iau fod yng nghwmni oedolyn

 

Details

Date:
2nd Medi 2017
Time:
5:30 pm - 9:00 pm
Cost:
£7
Event Category:

Venue

Theatr Byd Bychan
Bath House Road
Aberteifi, Ceredigion SA43 1JY United Kingdom
+ Google Map
Phone:
01239 615952

Terms and Conditions of ticket sales.

When making a booking with us your personal data is stored for Box Office purposes only. By making a booking you consent to your personal data being stored in accordance with the General Data Protection Regulation (GDPR).