
Croeso i Nom Nom sy’n gweini siocled poeth a gwerthu eu barau siocled o 7.30yh
Cydweithrediad Indo-Geltaidd cyffrous rhwng tri cherddor sy’n byw yng Nghymru: Rajesh David (llais Indiaidd), Pete Stacey (sacsoffon a ffliwt) a Dylan Fowler (gitâr). Mae arlwy Tŷhai yn cynnwys ragas a rhythmau cerddoriaeth yr India, penillion o farddoniaeth Sufi a thestunau Sanskrit hynafol, ynghyd â cerdd a chân draddodiadol o Gymru. Caiff cynulleidfaoedd eu plesio a’u swyno gan y cyfuniad unigryw yma o ddau ddiwylliant cyfoethog.



