
Rainbow Girls yw criw cyd-weithiol o ysgrifenwyr caneuon, offerynwyr aml-ddoniog, lleiswyr a phobl Califfornia sydd wedi treulio’r 5 mlynedd ddiwethaf yn teithio Ewrop a’r UD fel band roc a rôl – dyna yw Rainbow Girls. Yn ddiweddar fe ddychwelon nhw at eu gwreiddiau mwy gwerinol ac mae’r triawd newydd yn teithio i’r DU yr hydref hwn gyda Erin Chapin, Caitlin Gowdey a Vanessa May. Bydd y Rainbow Girls yn perfformio dwy set hardd sy’n cyfleu eu harmonïau cyfoethog, eu caneuon oesol a sain eneidiol, blŵs eu canu.
Mwynhewch fwyd a difyrrwch yn steil y cabaret. Archebwch ford ac ymunwch â ni am swper bendigedig ar ddechrau’r noson.
‘Mae’r Rainbow Girls yn rhywbeth hollol unigryw a chryn dipyn yn fwy amrywiol na band nodweddiadol…lleisiau sy’n swnio weithiau mwy fel Carolina Chocolate Drops na merched mwyn arfordir Califfornia; ar adegau eraill yn beltio riffs jazz, yna’n newid gêr a symud i arddull marwnad Canu Gwlad.’
Phil Busse, the Source Weekly
rainbowgirlsmusic.com
£10 | £17.50 i gynnwys swper



