
Croeso nôl i ddosbarthiadau Maya gyda gweithdy newydd a chyffrous yn ei phortffolio.
Cewch eich tywys drwy broses o greu llyfr celf trwy ddefnyddio geiriau a ‘ddarganfyddwyd’, brawddegau a delweddau parod.
Crëwch stori newydd a phersonol; o’ch bywyd chi, o stori rhywun arall, o chwedl plentyndod i eiriau haniaethol gyda ffocws ar y ddelwedd. Fe ddysgwch am collage, sgiliau llyfrau pop-yp a sut i wneud drysau bach sy’n agor ar fydoedd eraill. Dim angen profiad blaenorol.
Addas i oed 14+.
Darperir deunyddiau/offer ond mae croeso i chi ddod â’ch delweddau eich hun – fel sganiau o luniau neu luniau o gylchgronau. Dechreuwch gasglu nawr…
Archebwch gyda Maya yn clocktowerartstudio@gmail.com neu ffoniwch 17891036776
£24 | £20 gostyngiad



