
Ry’n ni’n rhoi’r bêls gwellt yn eu lle, yn llenwi’r casgenni ac yn hongian y baneri bach ar gyfer noson wedi ei hysbrydoli gan naws y twmpath ‘sgubor yng nghwmni’r artistiaid gwlad disglair, Wild Ponies.
Er mai yn Nashville mae eu cartref, De-orllewin Virginia (lle ganwyd a magwyd cyd-aelodau’r band, Doug a Telisha Williams) sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth gyson i Wild Ponies . Yno, mewn trefi mynyddig fel Galax, mae cerddoriaeth draddodiadol Americanaidd yn dal i ffynnu, gyda chefnogaeth cymuned o ffidlwyr, fflat-bigwyr a ffans.
Mae lleisio deinamig ac amrywiaeth drawiadol arddulliau Wild Ponies (o ganu gwerin a miwsig Americanaidd i alt-ganu gwlad, swing a ratlo-a-pwno fel Crazy Horse) yn amlwg yn eu halbwm newydd ‘Galax’, sy’n talu teyrnged i’w gwreiddiau a’u cyfansoddi blaengar. Peidiwch colli’r cyfle hwn i droelli’ch partner!
wildponies.net



