
Rhoi aeron gwyllt i gadw heb siwgr gan Jade Mellor wildpickings.co.uk
Hydref yw’r mis ar gyfer aeron aeddfed a ffrwythau melys gwyllt llawn sudd. Ymunwch â’r fforiwr proffesiynol Jade Mellor ar daith hydrefol mas i gasglu gwledd wyllt i’w throi yn botiau cadw o ffrwyth tymhorol. Byddwch yn dechrau eich dydd yn cerdded o Theatr Byd Bychan o gwmpas y gwrychoedd i chwilota am aeron a ffrwyth, yna’n mynd nôl â nhw i’r gegin a’u troi yn jamiau blasus. Byddwn yn edrych ar sawl opsiwn arall yn lle defnyddio siwgr wedi ei brosesu, ac ar ddulliau eraill o gadw ffrwyth megis sychu neu biclo. Mae ryseitiau a deunyddiau yn gynwysedig ac fe fydd gyda chi ddau botyn o ffrwyth i fynd gartre gyda chi. Dewch â’ch cinio eich hunan o.g.y.dd.



