
Gyda Owen Shiers a Gwilym Morus-Baird
Sioe ddwyieithog yw Gadael Tir sy’n adrodd hanes hawliau tir a phrotest yng Nghymru. Mae’n dilyn helbulon a thrafferthion y werin bobl a lafuriodd i godi cenedl o’r gwraidd. Mae Gadael Tir yn adrodd eu stori trwy gytganau heintus caneuon traddodiadol; straeon dirdynnol am anobaith a dal ati; ffermwyr â bwyelli yn eu dwylo yn croes-wisgo; gweinidogion radical, gweithwyr tir ac undebau – y cyfan yn cwmpasu mil o flynyddoedd o hanes wedi ei gywasgu o fewn un perfformiad.
Noddwyd y sioe yn wreiddiol gan Gelfyddydau Cymru a Chreu Cymru, pan aeth y perfformwyr ati i ddarganfod cerddoriaeth werin Gymraeg a straeon oedd wedi llithro o’r golwg ers canrifoedd. Mae’r cynhyrchiad hwn yn seiliedig ar yr un math o gysyniad â ‘Three Acres and a Cow’ ac fe weithiodd crëwr y sioe, Robin Grey, yn agos â’r artistiaid.



