
Walk With Me
Cyflwynir gan Quiet Earth
Ebrill 7
Gweinir bwyd o 7yh
Dangos y ffilm am 8yh
£10
£17 yn cynnwys bwyd
Cyfarwyddwyd gan Marc J. Francis Max Pugh
Llefaru gan Benedict Cumberbatch
Hyd | 94 munud
Tystysgrif | PG
Mae ‘Walk With Me’ yn mynd â ni yn ddyfnach na’r aeth neb o’r blaen i galon mynachdy byd-enwog y Meistr Bwdaeth Zen, Thich Nhat Hanh, ac mae’n rhoi darlun i ni o fywyd cymuned fynachaidd sydd wedi rhoi’r gorau i’w holl eiddo er mwyn canolbwyntio ar un pwrpas cyffredin – i ymarfer y gelfyddyd feddylgar.
Digwyddodd y ffilmio dros gyfnod o dair blynedd, ac mae’r ffilm angerddol hon yn fyfyrdod ynghylch cymuned o bobl sy’n benderfynol o ddatblygu ymdeimlad dwfn o bresenoldeb, nid yn unig ar eu cyfer eu hunain ond er mwyn pawb y maen nhw’n eu caru.
Wrth i’r tymhorau fynd a dod, mae goleuni pellach yn cael ei daflu ar daith fewnol y mynachod trwy gyfrwng sylwadau treiddgar o ddyddiaduron cynnar Thich Nhat Hanh, sy’n cael eu llefaru gan Benedict Cumberbatch.



