
cefnogwyd gan Maya Mitten
Mae Resonators ar flaen y sîn dyb yn y DU, yn cysylltu eu cariad mawr at reggae o’r 70’au â dylanwadau cyfoes amrywiol er mwyn creu eu sain cyffrous eu hunain. Mae pŵerdy lleisiol deulais Faye Houston a Kassia Zermon yn creu’r sain blaen i grŵp naw-darn, sy’n mynd â ni ar daith seiniol o begwn sain ysgafn ac eneidiol i sain tywyll a garw. Yn 2018 maen nhw ar daith yn y DU yn lansio eu deunydd newydd. Ddegawd ers iddyn nhw ddechrau arni, mae eu nod mor berthnasol ag erioed, sef dod â rhywbeth meddylgar a phositif i’r byd, trwy grefft aruthrol y peiriannydd dyb, Darren Jamtone. Mae Resonators yn cynnig profiad pwerus, seicadelic a llawn iwfforia.
a return to dub music of rare subtlety and imagination… the UK reggae act to watch
John Masouri, Echoes Magazine
…elements are truly beautiful and haunting…truly original…most refreshing.
David Rodigan
Cefnogwyd gan Night Out



