Disgrifiad
Diolch am ddewis rhoi rhodd i Theatr Byd Bychan! Ry’ch chi’n dewis gwneud rhywbeth hyfryd iawn, ac fe fydd eich rhodd yn helpu cefnogi y gweithdai cymunedol, teuluol a rhwng-genhedlaeth sy’n cael eu cynnal gennym gydol y flwyddyn. Byddwch hefyd yn cefnogi y digwyddiadau gwych ac arbennig o ddifyr sy’n cael eu rhaglennu ar gyfer ein lleoliad hardd a chynaliadwy. Rhain yw’r digwyddiadau lle byddwn yn cyd-weithio gydag ymarferwyr theatr dawnus a thalentog, cerddorion, beirdd, chwedleuwyr, siwglwyr, gwneuthurwyr, siaradwyr, ymgyrchwyr ysbrydoledig, artistiaid ar ddechrau gyrfa, gwneuthurwyr ffilm ac arweinwyr gweithdai.





