AMETHYST
yw’r enw ar brosiect o dan adain Theatr Byd Bychan. Ry’n ni’n cynnal gweithdai i bobl ifanc sydd wedi cael profiad o ddelio gyda hunan-niweidio, gofid, iselder, hyder isel a hunan-barch isel. Mae Amethyst hefyd yn gweithio gyda pobl ifanc ym maes lles emosiynol cyffredinol.
Mae Amethyst yn blaenoriaethu creu gofod diogel, cefnogol ac anfeirniadol. Ry’n ni’n modelu caredigrwydd, cydymdeimlad, gonestrwydd ac uniondeb. Gan ddefnyddio technegau o ‘Theatr y Gorthrymedig’, megis theatr fforwm, a theatr delweddu, elfennau o Ddadansoddi Trafodaethau, Therapi Ymddygiad Cognitif a Niwrowyddoniaeth, gemau ac ymarferion, ry’n ni’n hyrwyddo llesiant a gwella iechyd meddwl. Ry’n ni’n gweithio o’r dechrau gyda pob grŵp i negodi cytundeb clir, cyfredol sy’n cynnwys yr holl aelodau.
Rhaglen y tymor newydd 2022
Sut ddechreuodd Amethyst a’r hyn mae wedi’i gyflawni
Cychwynnwyd AMETHYST gan Theatr Byd Bychan yn 2017 ar gyfer pobl ifanc sy’n wynebu anawsterau gyda’u hiechyd meddyliol. Lleolwyd y prosiect ar safle Theatr Byd Bychan yn Aberteifi, arweinydd y cynllun yw Deri Morgan y Rheolwr Prosiect, ac mae’n cynnwys tîm o bobl a gwirfoddolwyr. Trefnwyd sesiynau cefnogi wythnosol yn ystod tymhorau’r ysgol ac fe barhawyd â’r fformat hwn hyd nes 2019, pan ymddangosodd Covid-19.
Defnyddiodd tîm y prosiect gyfuniad profedig o dechnegau theatr i edrych ar berthnasau (gyda’i hunain a chydag eraill) a dod o hyd i atebion cadarnhaol ar gyfer y problemau a wynebir yn ddyddiol mewn bywyd. Elfen llawn mor bwysig oedd y gwagle yr oedd y prosiect yn ei gynnig: gwagle diogel, cefnogol a heb feirniadaeth oedd yn blaenoriaethu’r bobl ifanc fel eu bod nhw’n teimlo fod pobl yn gwrando arnyn nhw ac y medren nhw archwilio eu meddyliau a’u teimladau.
Rhaglen y gorffennol

Mae Amethyst yn defnyddio’r technegau canlynol:
Theatr Fforwm – defnyddio theatr i archwilio profiadau a straeon go iawn.
Theatr Delwedd – defnyddio delweddau llonydd i archwilio ein teimladau a’n profiadau.
Elfennau o Ddadansoddi Trafodaethau – megis rholiau Rhiant/Oedolyn/Plentyn a’r Triongl Drama; gan edrych ar roliau’r dioddefwr, yr erlidiwr a’r achubwr.
Elfennau o niwrowyddoniaeth – deall ein hymenyddiau a’n systemau nerfol.
Contractio Grŵp – i ddarparu gwagle diogel heb feirniadaeth.
Digonedd o gemau hwyliog – i wneud i ni chwerthin a gwenu ac i ryddhau endorffinau.
Gwaith prosiectau’r gorffennol
2018-2020
Hwylusodd Amethyst weithdai yn ne a gogledd Ceredigion yn Theatr Byd Bychan a Chanolfan y Teulu Penparcau. Trefnwyd cyfarfodydd cyson ar gyfer grwpiau bychain o bobl ifanc a gyfeiriwyd.
2019-2020
Lansio Rhaglen Ysgolion Cynradd
Gweithio mewn ysgolion yng Ngheredigion i wella lles ac i gynnig strategaethau ymdopi i grwpiau ac unigolion. Yn ystod cyfres o weithdai mewn ysgolion, creodd y grwpiau berfformiad a ddangoswyd i’w cyfoedion, yn seiliedig ar les emosiynol.
2019 – y presennol
Lansio Grŵp Cefnogi Rhieni/Gwarcheidwaid
Eleni lansiodd Amethyst ei grŵp cefnogi cyntaf yng Ngheredigion ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid pobl ifanc a effeithiwyd gan faterion iechyd meddwl. Trefnwyd gweithdai wyneb yn wyneb wedi’u teilwra ar gyfer anghenion penodol y grwpiau.
2018
Animeiddio Amethyst
Creodd Amethyst gyfres o ffilmiau animeiddiedig sy’n gweithio’n rheoliad gyda’i grwpiau a chydag artist digidol yn ne Ceredigion. Roedd y ffilmiau personol hyn ynglŷn â’u hiechyd meddyliol a’u profiadau hwy o’r prosiect a’r gweithwyr cynorthwyol.
2017
Sesiynau Blasu Amethyst
Cychwynnodd Amethyst drwy beilota’r prosiect i unigolion a gyfeiriwyd. Gwnaeth Amethyst gysylltiadau gyda CAMHS, ysgolion lleol, grwpiau ieuenctid, meddygon teulu a sefydliadau statudol/trydydd sector eraill.
Dewch i gwrdd â’r tîm
Deri Morgan
Arweinydd Amethyst yw Deri Morgan. Cyn sefydlu Amethyst, gweithiodd Deri Morgan gyda phrosiect Amber yng Nghaerdydd a Theatr Forum Cymru. Mae ei phrofiad hi gyda phobl ifanc ym meysydd hunan-niweidio, gorbryder, iselder, a bwlio. Mae Amethyst bellach yn cynnig cefnogaeth debyg gan dîm hynod alluog o gydweithwyr.
Hannah Rackham
Gweithiwr ieuenctid heb ei hail! Mae hi’n arbenigo mewn cefnogi a rhoi manteision i bobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl ers 27+ o flynyddoedd. Mae Hannah’n defnyddio technegau theatr fforwm ochr yn ochr â Deri ac yn arbenigo mewn cefnogaeth un-i-un.
Jo Grace
Seicotherapydd sy’n wybodus ym mae trawma, sydd ag 20+ mlynedd i brofiad o weithio’n therapiwtig a chreadigol gyda phobl.
Sam Vicary
Mae Sam yn aelod o dîm Theatr Byd Bychan sy’n cynorthwyo Amethyst gyda dosbarthiadau therapiwtig creadigol.
Cydweithwyr a chynghorwyr
Glenn Newman
Seicotherapydd systemig annibynnol a Hyfforddwr yw Glenn, mae’n hwyluso’r cyfarfodydd cefnogi goruchwyliol ar gyfer tîm Amethyst.