Nod
- Gwella lles emosiynol ymhlith pobl ifanc yng Ngheredigion
- Cynnig strategaethau ymdopi i grwpiau ac unigolion ifanc yng Ngheredigion
- Gweithio gydag ysgolion tuag at berfformiad ar thema lles emosiynol y gallan nhw ei rannu gyda’u cyfoedion
- Creu gofod diogel lle gall pob aelod o’r grwp deimlo parch a bod rhywun yn gwrando
- Rhoi’r offer i aelodau’r grŵp iddyn nhw ddeall eu hunain ac eraill yn well
- Codi hunan hyder a hunan-barch unigolion
Amcanion
- Defnyddio cytundebau grŵp a sgiliau gwrando astud i fodelu caredigrwydd, cydymdeimlad ac empathi
- Defnyddio straeon go iawn o fewn y grŵp i greu darn o Theatr Fforwm all gael ei rannu gyda phobl ifanc eraill ac oedolion sy’n gweithio gyda nhw
- Rhannu theorïau defnyddiol megis Dadansoddi Trafodaethau (deall natur ein rhyngweithio gydag eraill) a Therapi Ymddygiad Cognitif (deall sut mae ein prosesau meddwl yn gweithio)
- Defnyddio gemau ac ymarferion i rannu, gwneud eraill yn gysurus a gwneud y sesiynau yn hwyl ac ysbrydoliaeth.
- Rhannu strategaethau sy’n gweithio gyda grwpiau i’w helpu i ddelio gyda’u teimladau negyddol posib.
- Rhaglen (isod mae esiamplau o beth all fod yn gynwysedig)
- Enghraifft: ffocws y sesiwn
Sesiwn 1
Cyflwyniadau
Gemau torri’r iâ
Cytundeb Grŵp
Deallusrwydd Emosiynol
Session 2
Dadansoddi Trafodaethau
- Rhiant/ Oedolyn/ Plentyn – Sut ni’n ymateb i eraill a sut maen nhw’n ymateb i ni.
- Sut i adnabod pryd ni’n cael ein cyflyru i ymddwyn mewn ffordd benodol, a sut i adnabod sut y’n ni’n cyflyru eraill
- Y Triongl Drama – Sut i adnabod os ni’n chwarae gemau mewn sefyllfa neu gyda pobl eraill. Sut i gamu i ffwrdd oddi wrth hyn (Triongl yr Enillydd)
Sesiwn 3
Technegau Ymdopi
- Cyflwyno technegau meddylgarwch tyner iawn
- Sut gall ein synhwyrau ein gwreiddio a thynnu ein sylw oddi ar feddyliau negyddol
- Trafod y systemau cefnogi sydd o’n cwmpas ac ar gael i ni
Sesiwn 4
CBT – Meddyliau/ Teimladau/ Ymddygiadau
- Sut i adnabod pan fydd ein meddyliau, teimladau ac ymddygiadau yn effeithio ei gilydd ac yn ein hala i gyflwr negyddol
Deri Morgan
01239 615 952
deri@smallworld.org.uk

