Amethyst yn ymestyn Rhaglenni Cefnogi creadigol i Ofalwyr Ifanc yng ngorllewin Cymru.
Diolch i Gronfa Arloesi Cymorth i Ofalwyr, mae theatr Byd Bychan yn lansio cyfleoedd cefnogol a chynhyrfus i ofalwyr ifanc yn Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gâr.
Mae prosiect sefydlog Theatr Byd Bychan sef Amethyst wedi cefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn eang drwy ymarfer theatr, ymgynghoriadau wyneb yn wyneb, hyfforddiant cefnogaeth cyfoedion yn ogystal ag addasu i ddarparu cefnogaeth ar-lein drwy gydol cyfnod y pandemig.
Eleni lansiodd y prosiect Raglenni Cefnogi Rhieni/Gwarcheidwaid ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid y mae eu pobl ifainc wedi’u heffeithio gan broblemau iechyd meddwl. Y mae Theatr Byd Bychan wrth eu bodd i fedru ymestyn y gefnogaeth drwy gyfrwng rhaglen newydd i helpu pobl ifanc sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Y mae hyfforddwyr ysgol campau awyr Theatr Byd Bychan yn ymuno ag Amethyst i ychwanegu sesiynau syrcas awyr a ioga awyr i’r Rhaglen Cefnogi Gofalwyr Ifanc. Bydd gofalwyr ifanc sy’n gweithio gyda’r syrcas awyr yn elwa i brofiadau cynhyrfus, llawn hwyl sy’n adeiladu hyder a lefelau ffitrwydd.
Bydd y grwpiau’n rhai bychain, rhad ac am ddim. Bydd y Sesiynau Gofalwyr Ifanc yn digwydd yn Stiwdio 17, Hendy-gwyn a Theatr Byd Bychan, Aberteifi gan gychwyn ar 22/5/22. Cysylltwch â Deri os hoffech wybod mwy am naill raglen gefnogi neu’r llall, deri@smallworld.org.uk.
Rhaglen Cefnogi Gofalwyr Ifanc gyda Sesiynau Ioga a Sesiynau Sgiliau Awyr
15/5/22
Ioga Awyr Gofalwyr Ifanc i Ddechreuwyr, 11:00 – 12:30
Syrcas Awyr Gofalwyr Ifanc i Ddechreuwyr, 13:30 – 15:00
Lleoliad: Stiwdio 17, Hendy-gwyn
31/5/22
Ioga Awyr Gofalwyr Ifanc i Ddechreuwyr, 10:30 – 12:00
Syrcas Awyr Gofalwyr Ifanc i Ddechreuwyr 13:00 – 14:30
Lleoliad: Theatr Byd Bychan, Aberteifi
3/6/22
Ioga Awyr Gofalwyr Ifanc i Ddechreuwyr, 10:30 – 12:00
Syrcas Awyr Gofalwyr Ifanc i Ddechreuwyr, 13:00 – 14:30
Lleoliad: Theatr Byd Bychan, Aberteifi


