GRŴP RHIENI GWARCHEIDWAID
Dechrau ar unwaith
Am ddim
Mae prosiect Amethyst yn cefnogi a chynnal pobl sy’n rhieni a gwarcheidwaid i bobl ifanc sy’n ei chael hi’n anodd o ran eu hiechyd meddwl, mewn grŵp ar-lein sy’n agored i bawb ar ddyddiau Mawrth 13.00–14.00. Rydym ni’n cynnig cymorth cymheiriaid, cymorth cyfeiriol a man diogel i rannu profiadau. Mae’r sesiynau hyn yn gyfrinachol.
Peidiwch â phetruso cyn cysylltu â Deri deri@smallworld.org.uk.
Pynciau a sesiynau siaradwyr ar gyfer Grŵp Cefnogi Amethyst i Rieni a Gofalwyr.
Mae Amethyst yn gweithio gyda grŵp o Rieni a Gofalwyr i bobl ifanc sy’n brwydro gyda’u
hiechyd meddwl. Mae’r grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd ar-lein ar ddyddiau Mawrth 13:00-
14:30. Mae croeso i rieni newydd ac fe allwn ni drefnu Zoom un-i-un i chi cyn y sesiwn
arferol er mwyn esbonio sut yr ydym ni’n gweithio. Yr hydref hwn, mae gennym 3
dyddiad gyda siaradwyr gwadd ar bynciau arbenigol.
12/10/21
Bydd DDAS yn ymuno â ni i drafod cam-drin sylweddau, cefnogi teuluoedd a chyfeillion
defnyddwyr cyffuriau ac alcohol.
16/11/21
Bydd yr hwylusydd Celfyddydau Therapiwtig, Josie, yn rhoi trosolwg i ni ar y system
nerfol a rheolaeth emosiynol.
7/12/21 tbc
Bydd Amber Project yn ymuno â ni i siarad am gefnogi pobl ifanc sy’n hunan-niweidio.
Mae’r sesiynau’n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. Cysylltwch â Deri deri@smallworld.org.uk
