
Dros gyfnod o wythnos, bydd ein Artist Preswyl a Derbynnydd Gwobr Creadigrwydd Cymru 2017 yn ail-berfformio cyfres o ‘Ddeialogau ar Gelf, Bywyd ac Adnewyddiad Ysbrydol.’
Cyhoeddwyd y deialogau hyn yn wreiddiol 25 mlynedd yn ôl yn y llyfr arloesol ‘Conversations Before the End of Time’ gan yr awdur Americanaidd Suzi Gablik, ac mae nhw mor berthnasol heddiw ag erioed.
Mae’r deialogau dwys a chlos yma gydag artistiaid, ysgrifenwyr ac athronwyr yn mynd i’r afael â chwestiynau canolog am ystyr a phwrpas celfyddyd mewn byd o newid cymdeithasol cyflym, argyfwng amgylcheddol ac ansicrwydd ysbrydol.
Dros y bum mlynedd ddiwethaf, mae Fern, cyd-sylfaenydd Theatr Volcano, wedi bod yn llythyru ag awdur y llyfr, ac fe’i hysbrydolwyd i ddatblygu ‘Emergence’, sef menter newydd lle mae rôl celf a deialog yn ganolog yn y trawsnewid i fod yn gymdeithas gynaliadwy.
Mae perthynas Fern a Gablik, sydd bellach yn ei 80au, yn parhau i ddatblygu ac fe’i gwahoddwyd yn ddiweddar i ymweld â Gablik yn ei chartref yn Blacksburg, Virginia.
Dros ddeuddydd yn ystod haf llynedd, eisteddodd Fern gyda Suzi i siarad gyda hi am ei gwaith a’i diddordeb mewn ‘celfyddyd deialog.’ Arweiniodd hyn at syniad, gyda chaniatâd yr awdur, i ‘ail-lwyfannu’ rhai o’r deialogau a gyhoeddwyd yn wreiddiol gydag artistiaid gwadd lleol sydd â’u gwaith yn ymateb i syniadau amgylcheddol, cymdeithasol ac ysbrydol.
Caiff 7 deialog eu hail-lwyfannu tros gyfnod o 7 dydd. Dyma gyd-weithio creadigol gyda ‘chelfyddyd deialog’ yn ganolog i’r cyfan. Estynnwn wahoddiad i chi i wrando, i gymryd rhan yn eich deialogau eich hunan a rhannu eich canfyddiadau a’ch myfyrdodau chi.
‘Sut y’n ni’n byw mewn cyfnod o ddirywiad, o chwalfa hyd yn oed, a pha rôl sydd i gelf?




