
Drysau’n agor am 6.30yh
Ffilm yn dechrau am 7yh
56 munud
Julie Clavier
Y llong stemar hynaf sy’n dal i fodoli yn Affrica yw MV Liemba. Am bron i ganrif, bu’r stemar yn pwffian lan a lawr glannau dwyreiniol Llyn Tanganyika yn Tanzania. Fe’i hadeiladwyd yn yr Almaen yn 1913 cyn cael ei datod a’i hwylio mewn darnau draw i ardal Dwyrain Affrica Almaenig i’w hail-adeiladu. Ganrif yn ddiweddarach, mae’r llong yn ddolen gyswllt, yn fferi, llong gargo ac yn farchnad i’r pentrefi a chymunedau pellennig niferus sy’n gorwedd ar hyd y glannau. Dyma ffilm sydd wedi eu ffilmio mor hardd nes eich cludo’n llwyr yno i fwrdd y llong…
aelodaeth: £1 (tâl un tro)



