
Drysau a bar yn agor 6.30yh
Man with a Pram
Cyfarwyddwr: Mikael Strandberg
58 munud
Mae tad, ei ferch Dana (2 flwydd oed mewn pram) a chynorthwywraig Saesneg, Georgia, yn dechrau cerdded 750 km o un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Lloegr (Moss Side) i un o’r cyfoethocaf (Palas Buckingham, Llundain). Mae teithio wastad wedi bod yn ffordd i Mikael chwilio am, a deall, ystyr bywyd. Mae’n ceisio deall pam ddigwyddodd Brexit a pam fod banciau bwyd yn tyfu’n gyflym. Tra’n ymweld ag un o’r ysgolion bonedd drutaf yn y byd, mae’n pendroni pam nad oes digon o fwyd gan lawer i bara un diwrnod.
Man With a Camel, Expedition Yemen, 126 Degrees in the Shade
Director: Mikael Strandberg
58 mins
“You´ll die. Or get kidnapped by Al Qaeda. What you want to do is impossible!”
Gyda newyddiadurwr o Sweden, Tanya Holm, Kensington y Camel a’r Bedus (rhai o drigolion hynaf Arabia) fe deithiodd Mikael drwy un o anialdiroedd poethaf y ddaear. Wnaethon nhw ddim cwrdd ag unrhyw derfysgwyr, eithafwyr crefyddol a chafodd neb eu lladd. Wnaethon nhw ddim teimlo unrhyw fraw difrifol hyd yn oed. Beth wnaethon nhw ddarganfod yn ystod y daith anturus hon i ddod o hyd i’r Arabia go iawn, oedd gwlad yn y Dwyrain Canol sy’n dra gwahanol i’r un sy’n cael ei phortreadu gan gyfryngau’r byd.
Mynediad i’r ddwy ffilm
£5
£1 tâl aelodaeth un tro



