
Dangosiad o animeiddiad hudol Lotte Reiniger sy’n addas ar gyfer y teulu oll, gyda chyfle wedi hynny i gymryd rhan mewn gweithdy a chael blas ar animeiddio.
Mae tywysog golygus yn marchogaeth ceffyl sy’n hedfan i diroedd pell ac yn cychwyn ar anturiaethau hudol, sy’n cynnwys gwneud ffrindiau gyda gwrach, cwrdd ag Aladdin, brwydro cythreuliaid a syrthio mewn cariad â thywysoges.
Mynediad trwy rodd.
Yn addas ar gyfer pobl awtistig a phobl sydd ag anabledd dysgu, mewn partneriaeth â Mencap Ceredigion. Edrychwch allan am fwy o ddangosiadau anime ar y gweill yn yr ardal leol dros y gaeaf!
Gyda chefnogaeth gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Hwb Ffilm Cymru a Ffilm Cymru Wales.



