
Mae’n ddrwg gennym ond mae hwn yn llawn. Cysylltwch â info@smallworld.org.uk a byddwn yn cysylltu â chi os daw lle ar gael. Diolch.
Cyflwyniad hwyliog i bethau sylfaenol syrcas awyrgampau. Wedi sesiwn gynhesu y medrwch ei dilyn yn hawdd, byddwch yn dysgu sut i ddringo ar yr aparatws a chreu siapiau yn yr awyr, mewn awyrgylch ddiogel sy’n magu hyder.
Nid oes angen unrhyw brofiad ar gyfer y sesiynau hyn. Er y byddai peth ymwybyddiaeth corfforol o ddefnydd mawr e.e. o ddawns, ioga, dringo neu grefft ymladd ayyb.
Mwyafrif o 10 i gymryd rhan fesul dosbarth 1.5-awr gan weithio mewn parau cyfeillio er mwyn rhannu un darn o aparatws gyda’i gilydd am y sesiwn.
Beth i’w wisgo
dillad cysurus sy’n ffitio’n agos ar y corff, rhai y teimlwch chi’n gysurus i symud ynddynt, gan gynnwys crys neu dop y gallwch fod wyneb i waered ynddo heb iddo syrthio dros eich wyneb! Dylai’ch dillad ar y coesau orchuddio’r canol a chefn y pengliniau. Peidiwch â gwisgo gemwaith.
Beth i ddod gyda chi
gorchudd wyneb, mat i gynhesu arno, potel ddŵr.
Noddir gweithgareddau Gaeaf Llawn Lles gan Lywodraeth Cymru ac fe’i cydlynir gan Gyngor Sir Ceredigion.
#WinterOfWellbeing
#GaeafLlawnLles
++++
Archebu yma
Tocynnau Eventbrite
Tocynnau ar werth o 7 Chwefror 00:00
++++
Archebu’ch Lle Ar-lein
A wnewch chi archebu un sesiwn i bob plentyn ac fe fyddwn yn cadarnhau pob archeb gydag e-bost dilynol. Rhaid i’r archebu gael ei wneud gan riant neu warcheidwad, a bydd gofyn i chi ddychwelyd ffurflen Google yn gofyn am beth gwybodaeth er mwyn cwblhau’r broses archebu.
Beth i ddod gyda chi
Dewch â gorchudd wyneb os gwelwch yn dda, potel ddŵr a byrbryd os bydd angen.
Niferoedd Cyfyngedig
Mae niferoedd yn gyfyngedig, felly archebwch yn brydlon. Caiff ein gweithgareddau eu rhedeg gyda mwyafrif o 10 plentyn/person ifanc yn cymryd rhan. Byddwn yn rhedeg rhestr wrth gefn os byddwn yn cyrraedd yr uchafswm. Os ydych chi’n sylwi bod gweithgaredd yn llawn, a wnewch chi anfon e-bost at info@smallworld.org.uk er mwyn cael ei ychwanegu at y rhestr hon.
Mynediad a Pharcio
Mae Theatr Byd Bychan yn adeilad gyfan gwbl hygyrch. Fodd bynnag, nid oes lle parcio yn Theatr Byd Bychan a gofynnir i rieni i gysylltu â’r tîm os oes gan eu plentyn/person ifanc anghenion mynediad. Gofynnir i rieni i ollwng eu plentyn/person ifanc ar droed. Gofynnir yn garedig i rieni aros y tu allan i’r adeilad er mwyn cyfyngau ar y nifer o bobl a’r risg i’r rhai sydd y tu mewn.
Cysylltu â ni
Rydym ni’n argymell eich bod chi’n cysylltu â ni drwy e-bost info@smallworld.org.uk. Ni fedrwn sicrhau ymateb os ydych chi’n anfon neges dros y cyfryngau cymdeithasol, ac ni fyddwn ni’n derbyn archebion drwy’r cyfrwng hwn. Gallwch adael neges i ni ar 01239 615952 a bydd yn cael ei godi yn ystod oriau gweinyddol.



