
Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll
Stori gan Carys Glyn (awdur) a Ruth Jên (darlunydd)
Ar gael hefy ar AM Cymru
amam.cymru/small-world-theatre
+++++
Amser Stori cyntaf Theatr Byd Bychan. Y stori dan sylw yw ‘Criw’r Coed a Gwenyn Coll’. Mae’r stori hyfryd hon yn sôn am rai o’r anifeiliaid o’r Mabinogi (tylluan, carw, mwyalchen, eryr ac eog) yng nghyd-destun Cymru heddiw. Maen nhw ar ymgyrch i oresgyn yr heriau niferus y maen nhw’n eu wynebu yn yr amgylchedd cyfnewidiol heddiw ac maen nhw’n dechrau trwy helpu gwenyn bach.
Mae Carys Glyn yn athrawes ac awdur sy’n byw yn y Fenni. Hwn yw ei llyfr cyntaf ac rydym yn ddiolchgar iawn iddi hi, i Ruth ac i wasg y Lolfa am eu mewnbwn a’u cydweithrediad.
Seren Stacey … Adroddwr stori
Heledd Gwynn … Llais Siencyn
Sam Vicary … Pypedu digidol
Jacob Whittaker… Camera a sain
Bill Hamblett… Cynllun set
Sean Vicary… Cyfarwyddwr animeiddio
Ann Shrosbree … Cyfarwyddwr
Diolch yn arbennig i Gyngor Celfyddydau Cymru




