
Anim18 Celebration of British Animation across the UK
anime18.co.uk | @Anime18UK |
Dan arweiniad Film Hub Wales , Chapter a’r BFI Film Audience Network mewn partneriaeth â Theatr Byd Bychan.
Mae Theatr Byd Bychan yn cyflwyno cyfle prin i gael golwg fanwl ar waith Joanna Quinn fel rhan o Anim18. Mae Quinn wedi ennill dros 90 o wobrau rhyngwladol, gan gynnwys enwebiad Oscar, 2 wobr Emmy, 4 gwobr Bafta a gwobrau’r Beirniaid yn yr holl wyliau animeiddio. Cwblhawyd ei ffilm gyntaf ‘Girls Night Out’ yn 1987 ac fe enillodd dair gwobr yng Ngŵyl Ffilm Annecy. Cyflwynodd y ffilm hon yr wrth-arwres Beryl ac mae’n dilyn ei giamocs pan mae’n mynd i weld stripper gwryw. Fe ymddangosodd Beryl yn ffilm nesaf Quinn ‘Body Beautiful’ (1990). Yn y ffilm hon hi yw cynrychiolydd undeb llawr y ffatri ac mae’n gorfod delio â Vince, cydweithiwr macho, a leisiwyd gan Rob Brydon. Yn ei ffilm aml wobrwyol ‘Dreams and Desires – Family Ties’ (2006), mae Beryl bellach yn obsesiynol am wneud ffilmiau ac mae’n cael ei gwahodd i ffilmio priodas ffrind – ac mae’r canlyniadau’n drychinebus. Ar hyn o bryd, mae Joanna yn gweithio ar 4ydd ffilm Beryl a fydd yn barod yn gynnar yn 2019.
Bydd Joanna yn cyflwyno’r gweithiau rhain a mwy a gynhyrchwyd dros gyfnod o 25 mlynedd; o sefydlu Beryl Productions International yn 1987 gyda’r cynhyrchydd/awdur Les Mills, hyd heddiw




