
16 – 17 Awst, 10yb – 4yp
Os y’ch chi wastad wedi eisiau dysgu sut mae’r grefft o animeiddio yn gweithio, cewch flas arni yn y gweithdai yma. Ymunwch a rhai o’r un oedran am ddau ddiwrnod o ddysgu creadigol; nid oes angen sgiliau arbennig arnoch i wneud y gwaith. Bydd animeiddwyr profiadol Winding Snake yn dangos popeth sydd angen arnoch i gychwyn. Yn y gweithdy, byddwch yn dysgu technegau hanfodol animeiddio; o ddefnyddio eich corff i greu symudiadau ( pixilation), i dorri pypedau allan o gardfwrdd. Archebwch yn gynnar i sicrhau eich lle a gadewch i’ch dychymyg oleuo’r sgrin!
Dewch a rhywbeth i fwyta gyda chi.
£30 yr un



