
Yn syth ar ôl perfformio i neuaddau llawn dop yn Shangai, Efrog Newydd a Gŵyl Ymylol Caeredin, mae Apphia Campbell yn dechrau ar ei thaith gyntaf o’r DU.
Mae ‘Black is the Color of my Voice’ wedi ei ysbrydoli gan fywyd Nina Simone ac mae’n dilyn hanes cantores jazz lwyddiannus a gweithredwraig dros hawliau dinesig sy’n chwilio am waredigaeth yn dilyn marwolaeth annhymig ei thad. Mae’n adfyfyrio ar y daith a aeth â hi o fod yn bianydd ifanc dawnus iawn yn wynebu bywyd o wasanaeth i’w heglwys, i fod yn gantores jazz enwog ar flaen y Mudiad Hawliau Dinesig.
Wedi’r perfformiad theatr fe fydd egwyl ac yna ‘Soul Sessions’, sef sioe cabaret Apphia sy’n talu teyrnged i yrfa anhygoel Nina Simone. Archebwch eich lle yn gynnar fel na fyddwch yn colli noson wych fel hon.
“Mae Campbell yn berfformwraig eithriadol sy’n llenwi’r llwyfan yn llwyr, o fod yn blentyn gwan i fod yn seren eofn yn canu’r enaid i fod yn oedolyn bregus, toredig.”



