Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

CABARET ar gyfer y Llwyfan Digidol

13th Chwefror 2021 @ 8:00 pm - 9:00 pm

Y cyntaf o gyfres o berfformiadau cabaret awr o hyd ar-lein i groesawu hen ffrindiau i’r Llwyfan Digidol ac arbrofi gyda thechnegau arloesol newydd. Byddwn yn cyflwyno cymeriadau pyped 2D newydd, gan gynnwys eich gwesteiwr ar gyfer y noson ‘Beyond Compere’ (a elwir hefyd yn Bill Hamblett) yn fyw o’r lleoliad. Caiff sioe Seriously Good Magic (Tom Luddington) ei ffrydio o fwrdd y ‘Noctiluca’ yn Radazul, Tenerife.  Mae Jess Allen a Hannah Darby wedi creu sioeau awyr gwych eu cartrefi, gan eu perfformio yn Theatr Byd Bychan ar gyfer y digwyddiad hwn. Caiff ein prif sioe ei ffrydio o Santa Cruz.

Marty O’Reilly yw’r prif leisydd ar gyfer y grŵp anhygoel Marty O’Reilly and the Old Soul Orchestra. Bydd cefnogwyr selog yn gwybod y bydd y gynulleidfa wrth eu bodd pryd bynnag y bydd yn perfformio yn Aberteifi wrth deithio Ewrop. Rydym yn falch iawn o’i groesawu i’r Llwyfan Digidol, lle bydd yn chwarae gyda’r un argyhoeddiad â chantorion blues profiadol o Chicago er bod ei wreiddiau yn Swydd Sonoma. Mae’n chwarae’n ddi-dor, gan blethu caneuon i greu cadwyn gerddorol mor grefftus nes ei bod yn anodd gwybod pryd mae un gân yn gorffen a’r llall yn dechrau. Mae’n chwarae’r gitâr gydag angerdd, yn plycio a strymio’r tannau’n gyflym gan greu cerddoriaeth gynhyrfus. Cawn gyfle i glywed ei straeon rhwng y caneuon.

 

Bydd tocynnau ar werth tan 3yp Dydd Sadwrn 13/2/21

ARCHEBU

Cynhyrchiad Theatr Byd Bychan ar gyfer y Llwyfan Digidol gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru

 

 

 

 

 

 

 

Details

Date:
13th Chwefror 2021
Time:
8:00 pm - 9:00 pm
Event Category:

Venue

Theatr Byd Bychan
Bath House Road
Aberteifi, Ceredigion SA43 1JY United Kingdom
+ Google Map
Phone:
01239 615952

Terms and Conditions of ticket sales.

When making a booking with us your personal data is stored for Box Office purposes only. By making a booking you consent to your personal data being stored in accordance with the General Data Protection Regulation (GDPR).