
Mae Theatr Byd Bychan yn eich gwahodd i’r ail mewn cyfres o gabarets ar-lein, gan groesawu ffrindiau, perfformwyr a cherddorion i’r Llwyfan Digidol ar nos Wener 28/5/21 am 8pm. Mwynhewch gymysgedd eclectig wedi ei ffrydio’n fyw dan ofal gan Beyond Compere (eich gwestai digidol byw rhyngweithiol) ynghyd â diddanwch penigamp a ffilmiwyd yn arbennig ar gyfer y digwyddiad hwn.
Ry’n ni’n croesawu nôl Seriously Good Magic (Tom Luddington) sy’n hwylio’n hamddenol ar fwrdd y ‘Noctiluca’ yn yr Ynysoedd Dedwydd. Yna, mewn ymddangosiad prin, mae’r Sinkoplaters rhyfedd o ecsentrig yn mynd y filltir ychwanegol gyda’u hymdrech i lanhau’n drylwyr er mwyn cadw’r gynulleidfa rithwir yn ddiogel. Bydd Hannah Darby a Emma Stevens yn cyflwyno eu perfformiad awyrol à la mode o’r dyddiau gynt, gan herio disgyrchiant a phlymio drwy’r awyr. Cewch eich cludo i seddau rhithwir yn y rhes flaen (a croeso i chi ddod â’ch hufen ia eich hunan).
Estynnwn groeso cynnes eto i’r Chalk Outlines, criw codi’r to sain pres Ska, Roc a Rôl gorllewin Cymru. Mae nhw’n dod ynghyd wedi blwyddyn ar wahân i chwarae deunydd gwreiddiol a chodi’r ynni. Felly plygiwch y seinyddion yna i mewn, a byddwch yn ddigidol barod. Mae’r tocynnau ar werth ar-lein £8/£10. Beth am rannu’r newyddion hwn gyda ffrindiau er mwyn dod at eich gilydd am noson mas rithwir? Tocynnau ar werth ar-lein smallworld.org.uk



