
Mynediad £10 a tapas yn dechrau ar £3
Twmpath hen ffasiwn gyda Julie Murphy yn galw ac yn canu gyda’r Sruti, Ceri Rhys Matthews ar y ffliwt.
Dawnsfeydd yn cynnwys Jac y do, Robin Ddiog, Gay Gordons, Virginia Reel, Buffalo Girls, Dawnsfeydd o Ewrob fel Shotish, Mazurka, Walts, hefyd Bourees a dawnsfeydd o Lydaw. Dim eisiau profiad, fydd popeth yn syml ac yn eglur.
carreg bica
Cymdogion a chyfeillion yw’r pedwarawd carreg bica, sy’n byw dim nepell o’i gilydd naill ochr i’r teifi. Maent yn canolbwyntio ar etifeddiaeth cerddorol eu ardal, a thrwy gwead cyd-leisiol cyffyrddiad arbennig eu hofferynnau, yn ymdrin a’r holl bosibiliadau bydd y melodi yn cynnig arnynt.
Y mae’r triniaeth yn seiliedig ar gyd-chwarae’r ceinciau mewn heterophony, a sisialu’r alawon, gyda phwyslais ar addurno’r ceinciau mewn ffordd cynhenid i’w hofferynnau, sy’n gwrthgyferbynnu a’r tueddiad diweddar o bwyslais ar harmoni a threfniannau.
Y mae’r alawon eu hun yn amrywio o’r dwys i’r sionc, ac o’r hen i’r newydd. y mae carreg bica hefyd yn cynnig ambell i gân.



