
Band byw newydd mwyaf radical a lliwgar Llundain yw CLF, sy’n tanseilio a thrawsnewid hanes y Ceilidh. Gyda’u harddull newydd llawn ynni, mae nhw’n nythu’n gysurus dan faner y Nest Collective, sef clwb gwerin mwyaf disglair Llundain a ffurfiwyd trwy law Sam Lee, a enwebwyd am wobr gerddoriaeth Mercury.
Mae gyda nhw fyddin fechan o gerddorion hynod ddawnus, galwyr gwych, ac alawon i ysbrydoli a chodi’r ysbryd o bedair cornel y wlad. Mae nhw’n cyfuno cerdd a dawns a rhyw lychyn hael o gyffyrddiadau theatrig i greu profiad unigryw. Mae CLF yn anadlu bywyd newydd i hen draddodiad, tra’n anrhydeddu hanes cyfoethog cerddoriaeth draddodiadol ym Mhrydain.
Find out more about The Nest Collective here
More information about Sam Lee here
This event is supported by Night Out


