
Agored 3 Mai 4yp
Arddangosfa i’w gweld o Fai 3 – 31 2017
Gŵyl mis o hyd yw Gwanwyn, sy’n cael ei chynnal ar draws Cymru ym mis Mai bob blwyddyn i ddathlu creadigrwydd wrth fynd yn hŷn. Mae artistiaid Theatr Byd Bychan sy’ dros eu hanner cant oed wedi defnyddio proses o drafod a gweithdai i greu arddangosfa ddeinamig o waith gweledol sy’n ymdrin â rhai o’r materion sy’n agos at galon y cyfranogion o Kinora Aberteifi. Elusen a chanolfan iechyd meddwl galw-mewn yw Kinora Aberteifi.
Caiff yr arddangosfa ei lansio ar ddydd Mercher Mai 3 gyda chyflwyniad byr gan y grŵp. Mae gwahoddiad i bawb! Bydd te a choffi a chyfle i gwrdd a rhai o’r artistiaid.
Oriau agor: Mawrth – Gwener, 10yb – 4yp




