
10am – 12.30pm
Mae Theatr Byd Bychan a Phopty Bara Menyn wedi dod ynghyd i gynnig gweithdy pobi a chlownio unigryw. Gan weithio gyda Seren o Bara Menyn, bydd plant a rhieni yn cael hwyl yn ffurfio toes bara. Tra bod y bara yn codi a phobi, bydd Theatr Byd Bychan yn cynnal sesiwn clownio a gemau hwyl. Ar ddiwedd y gweithdy, bydd y teuluoedd yn dychwelyd i’r gegin i fwyta eu bara ffres eu hunain. Byddwn yn darparu yr holl gynhwysion ac offer. Mae’r gweithdy hwn yn cynnwys cyffwrdd blawd gwenith, hadau, burum a llaeth. Cysylltwch os gwelwch yn dda os am drafod alergedd. Croeso i chi ddod â rhywbeth ffein i’w daenu ar eich bara!
Addas i oed 2+
£15 yr oedolyn yn gwmni i hyd at 2 blentyn
Addas i oed 2+



