
12.30am – 3.30pm
Ymunwch â gweithdy hwyliog i wneud mwgwd mas o Mod-roc (rhwymyn plastr) i greu delwedd o’ch plentyn. Mae mwgwd Mod-roc yn cael ei fowldio ar y plentyn fel ei fod yn dod yn ffit perffaith (bydd rhaid i’r plant fod yn fodlon cael Vaseline ar eu hwynebau). Cewch wers mewn sut i fowldio’r defnydd ar wyneb y plentyn. Mae’r profiad yn rhan bwysig o’r broses gan fod rhaid i’r plentyn fod yn llonydd a thawel am tua 20 munud! Unwaith bydd y mwgwd wedi setio, gallwch weithio gyda’ch gilydd i’w addurno, gan ddewis o blith dewis mawr o bapur tusw a phetheuach disglair.
£10



