
Cyflwynir gan Robin Heath
Ymunwch â ni am gyflwyniad llawn lluniau gan yr awdur a’r ymchwilydd Robin Heath. Fe deithiodd grwpiau arbenigol o bobl i bob cornel bron o’n byd cyndadol a hynny ar berwyl mawr. Gyda help rhyw ddewiniaeth dechnolegol hynod sydd heb ei chydnabod erioed, fe wnaethon nhw dorri, llyfnu, caboli a chodi blociau aruthrol o garreg i ffurfio Temlau eu hoes. Mae rhwydwaith helaeth/grid o gofadeiladau carreg cyn-oesol i’w canfod ar hyd a lled y ddaear. “ Yn rhyfedd ddigon, nid oes dim am hyn mewn llyfrau hanes cyfredol’, meddai Robin Heath, sy’n daer am newid y sefyllfa hon trwy ddangos bod y cofebau sy’n para o hyd yn cynnwys etifeddiaeth gyn-oesol ryfeddol iawn.
Ffoto: Bill Hamblett



