
Perfformiwyd gan Dawns Powys
Yn Atomau Hedfanol mae Professor Gusto a Professor Hitch yn gweithio’n ddiwyd yn y labordy chwilfrydedd i ateb cwestiynau megis: sut mae adar yn aros yn yr awyr? I ble mae’r lleuad yn mynd yn ystod y dydd? Dim ond un peth sy’n sicr – mae’r bydysawd yn llawn rhyfeddodau ac nid yw popeth fel yr ymddengys. Yn dilyn perfformiadau llwyddiannus yng Ngŵyl Ymylol Caeredin 2017 a thaith boblogaidd tu hwnt o amgylch Gwyliau Gwyddoniaeth yn ystod hydref y llynedd, mae’r ddau Athro ar daith unwaith yn rhagor ac yn mynd â’u labordy i bob cwr o Gymru. Dyma sioe ryngweithiol, chwareus sy’n ysgubo cynulleidfaoedd â’i symudiadau dawns aruchel, ei cherddoriaeth hudolus a’i dylunio syfrdanol. Mae’n addas i bawb sy’n 6 oed neu’n hŷn.
Roedd POB UN o’r plant wedi’u cyfareddu. Roedd eu hwynebau’n llawn syndod a rhyfeddod.
Fe wnes i ddwlu ar y cyfan. Rydym yn byw mewn gwlad o hud a lledrith.




